Dyma Nala hardd! Daeth Nala i’n gofal heb unrhyw fai ei hun a nawr mae hi’n chwilio am deulu i’w charu hi am byth.
Mae hi’n ferch garedig a sensitif ac mae bywyd y cynel yn annodd iddi. Mae hi’n garedig iawn ac yn hoffi cymryd pethau’n araf. Mae hi’n gallu cymryd ychydig o amser i ymddiried yn bobl. Unwaith mae hi’n gartrefol mae ei natur siriol wir yn disgleirio drwodd!
Ar hyn o bryd mae hi ar ddiet arbennig a bydd angen i’w perchnogion newydd barhau a hyn. Hefyd, bydd Narla yn angen fynd i ddosbarth hyfforddi cŵn er mwyn datblygu ei hyder i ddod ar draws pobl a lleoedd newydd.
Mae hi’n mwynhau cerdded gyda’n gwirfoddolwyr ac yna cwtsh bach yn yr ardd synhwyraidd. Byddai’n ffynnu mewn cartref tawel gyda phobl sy’n hoffi archwilio’r awyr agored.
Yn dibynnu ar gyflwyniadau yn y ganolfan, gallai Narla fyw gyda:
Cathod
Cŵn tawel eraill
Plant
yn aros lluniau
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Nala. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.