Bam Bam sitting
Gadewch i ni gyflwyno Bam Bam, y Frenchie golygus iawn, i chi! Daeth Bam Bam i’n gofal oherwydd ei fod yn crwydro; roedd e’n ofnus iawn pan gyrhaeddodd, ac nid oedd am i unrhyw un fynd ato. Ond bellach mae Bam Bam wedi dod allan o’i gragen; unwaith y bydd yn ymddiried ynoch bydd yn eich cyfarch â’r wên fwyaf a’r pen ôl mwyaf bywiog! Ar ôl llawer o amser, cariad, amynedd a danteithion mae personoliaeth hyfryd Bam Bam yn dechrau dod i’r amlwg!
Mae Bam Bam wedi dangos sgiliau cymdeithasu gwych gyda chŵn eraill ac am y rheswm hwn credwn y byddai’n elwa o fyw gyda chi bach arall yn ei gartref newydd. Efallai nad yw’r llanc hwn yn fawr ond mae ganddo lawer o egni ac mae wrth ei fodd yn mynd am droeon hir, chwarae gyda’i deganau a gorffen y dydd trwy gael cwtsh gyda phobl.
Gall Bam Bam fod yn nerfus wrth gyfarfod â phobl am y tro cyntaf ond unwaith y bydd yn ymddiried ynoch chi does dim terfyn ar ei gariad! Bydd angen iddo fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i fagu hyder o amgylch pobl.
Gallai Bam Bam, o bosibl, fyw gyda chŵn a chathod eraill yn dibynnu ar gyflwyniadau a gynhelir yn y ganolfan.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Bam Bam. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.