Dewch i gwrdd â Dolly, pŵdl safonol hardd sy’n 7 mlwydd oed. Yn anffodus daeth Dolly i’n gofal oherwydd i’w pherchennog farw. Mae hi bellach yn chwilio am gartref parhaol.
Mae Dolly yn ferch gariadus iawn, ond gall fod yn nerfus wrth gwrdd â phobl newydd / bod mewn sefyllfaoedd newydd. Fodd bynnag, mae hi wrth ei bodd yn cael mynd am dro a dyna pryd y bydd ei hyder yn dod i’r amlwg. Bydd angen i Dolly gael ei chyflwyno’n araf i bobl er mwyn sicrhau y gall hi ymddiried yn ei pherchnogion newydd. Bydd rhoi tameidiau blasus iddi yn ffordd dda o gael ffafriaeth gan y ferch hon!
Mae Dolly yn magu hyder hefyd trwy fod yng nghwmni cŵn eraill,
Byddai hi’n ffynnu mewn cartref gyda chi bach arall sydd wedi cael ei ysbaddu i’w hannog hi i fod yn gi llawn bywyd a hyder fel y gwyddom y gallai hi fod.
Gallai Dolly fyw, o bosibl, gyda chathod a phlant 16+ hefyd, yn seiliedig ar gyflwyniadau yn y ganolfan. Byddai hi’n elwa o fynychu dosbarthiadau hyfforddi er mwyn magu hyder yn y byd mawr eang !
Gan ei bod hi’n bŵdl, bydd gofyn cynnal a chadw cot Dolly yn rheolaidd er mwyn gofalu am ei chwrls bendigedig!
Comments are closed.