Brave yw enw’r ci hardd hwn. Mae’n groesiad o gi tarw (Bulldog) ifanc sydd tua 3 mlwydd oed.
Cyrhaeddodd i’n gofal oherwydd ei fod ar grwydr; roedd angen rhywfaint o ofal milfeddygol ar Brave a llawer o ofal tyner hefyd.
Cymerodd Brave beth amser i addasu i’w amgylchfyd newydd; unwaith y teimlai’n fwy diogel llwyddodd i ddangos i ni mai ef yw’r bachgen bach anwylaf sydd eisiau cael ei garu.
Mae ei natur gwahanol a chwareus bellach yn dod i’r amlwg. Mae Brave yn dal i gael trafferth archwilio ardaloedd newydd, ond mae ei hyder yn tyfu’n ddyddiol.
Penderfynodd ein tîm milfeddygol dynnu llygad Brave oherwydd poen ac anghysur; mor ddifrifol oedd y difrod a achoswyd o ganlyniad i esgeulustod. Bydd gofyn i’w lygad arall gael llawdriniaeth i gywiro ei lygad cherry a bydd gofyn rhoi gel iro yn y llygad hwn trwy gydol ei oes.
Mae Brave yn gwella ac mae’n fachgen da pan fydd yn derbyn ei feddyginiaeth.
Mae Brave yn chwilio am ei gartref ei hun. Bydd angen iddo barhau i dderbyn hyfforddiant er mwyn ei gynorthwyo i fagu hyder. Mae Brave yn cymdeithasu’n gadarnhaol gyda chŵn eraill sydd wedi eu hysbaddu ac mae’n debyg y byddai’n elwa o fyw gyda chi arall sydd wedi cael ei ysbaddu.
Gallai fyw, o bosibl, gyda phlant sy’n parchu ei ofod yn ogystal â gyda chathod.
Cynhelir yr holl gyflwyniadau yn y Cartref Cŵn.
Comments are closed.