Dyma Cariad, mae hi’n ‘French Bulldog’ sydd wedi dod atom yn ddi-gartref. Mae hi tua 4-6 mlwydd oed. Yn anffodus dydy Cariad heb fwynhau bywyd hyfryd hyd yn hyn. Daeth atom gyda phroblemau difrifol ac roedd hi’n denau iawn. Ers iddi bod gyda ni, mae hi wedi ennill pwysau ac yn ymddiried mewn pobl yn fwy. Mae ganddi lawer o gariad i roi ac fe fyddai hi’n elwa o gartref ble geith y siawns i flodeuo yn ei hamser ei hunan ac sy’n ymwybodol o’r math Frenchie neu sydd wedi ymchwilio ac sy’n pardof I gofalu am ei chroen.. Mae hi’n ferch fach hyfryd sy’n mwynhau crafiad cefn ac mae angen cartref sy’n fodlon maethu ei hanghenion penodol.
Wrth i Cariad dod yn cyfforddus yn ei chartref newydd byddwn yn argymell mynychu cwrs hyfforddi er mwyn datblygu ei hyder a sgiliau cymdeithasol yn bellach.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cariad. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.