Mae Cassius yn bulldog 3 blwydd a hanner cafodd ei adael yn y filfeddygfa lleol. Mae’n fachgen cryf ac annwyl iawn ac mae ganddo bersonoliaeth ddoniol a fydd yn gwneud i chi chwerthin a chwerthin. Mae Cassius wrth ei fodd yn mynd am dro, po hiraf yw’r antur y gorau yw ei ddydd. Rydym yn teimlo gall Cass byw gyda ci benywaidd sydd o faint ac egni tebyg. Bydd angen cofrestru i ddosbarthiadau hyfforddi er mwyn ei helpu i gryfhau ei sgiliau cymdeithasoli. Mae’n arbennig o dda’n eistedd ac yn disgwyl i’w berchennog ddal ei bawen. Bydd angen i rywun fod adref â Cassius y rhan fwyaf o’r amser gan ei fod yn ffeindio hi’n anodd ymdopi â bod ar ei ben ei hun. Mae hyn yn ddealladwy oherwydd y trawma meddyliol mae cass wedi’i ddioddef o gael ei adael. Os ydych chi’n chwilio am hogyn bach hapus sydd llawn cariad, Cassius yw’r ci i chi! Cofiwch ei fod yn gryf, a bydd angen rhywun arno sy’n ddigon hyderus i’w reoli. Ar ôl iddo setlo, mae’n dda ar y lead.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus cewch eich gwadd i gwrdd â Cassius. Os na chlywch chi unrhyw beth yn y 7 diwrnod nesaf gofynnwn i chi gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.Oherwydd y nifer fawr o geisiadau rydym yn eu cael ni allwn gysylltu â phawb am hyn yn anffodus.
Comments are closed.