Stacey a Vanessa yw’r pâr bach yma, dau bwg ifanc a ddaeth atom atom fel cŵn strae. Mae’r merched yn bleser pur ac wrth eu bodd yn rhedeg, troelli a dawnsio fel pob pwg! Bydd rhywun sy’n caru pygiaid wrth ei fodd gyda nhw, a bydden nhw’n gwmni da.
Mae Stacey a Vanessa yn dal i ddysgu llawer am y byd mawr. Dydyn nhw ddim yn deall sut i gerdded ar dennyn yn dda iawn ac mae’n llawer gwell gyda nhw fod yn rhydd . Mae’r ddwy yn fwyaf hyderus yng nghwmni ei gilydd ac felly bydd angen cartref sy’n gallu eu croesawu nhw fel pâr. Maen nhw’n rhannu bwyd a theganau yn dda ac yn amlwg wedi bod gyda’i gilydd drwy gydol eu bywydau, felly ni fydden ni eisiau eu gwahanu nawr. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu byw gyda ci arall o’r un maint sydd wedi cael ei sbaddu, yn ddibynnol ar eu cyfarfod cyntaf yn y ganolfan.
Bydd Stacey a Vanessa angen perchnogion sy’n brofiadol gyda bridiau brachycephallic. Maen nhw’n cael eitha tipyn o drafferth gyda’u hanadlu (fel y rhan fwyaf o bygiaid) a bydd arnyn nhw angen perchnogion gwybodus sy’n gwybod am gyfyngu ar eu hymarfer corff a phroblemau iechyd eraill sy’n gyffredin gyda phygiaid. Ar ôl setlo’r merched, byddent yn elwa o gael dosbarthiadau hyfforddiant ar wahân i’w helpu i fagu hyder pan fyddan nhw ddim gyda’i gilydd.
Comments are closed.